Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2021
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-Net
(60 munud)
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi wyrddach
(45 munud)
6 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a’r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif
(45 munud)
7 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y rhaglen ddatgarboneiddio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
(45 munud)
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
NNDM7816 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7817 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 2 Tachwedd 2021.
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd
(15 munud)
NNDM7817 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd sy'n ymwneud â deunydd untro, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 3 Tachwedd 2021